Mae’r rhaglen hon yn agored i unrhyw un sy’n 13 oed a hŷn
Tystysgrif cwblhau
Gwerth dros 7 awr o gynnwys
Trosolwg:
Bydd y rhaglen profiad gwaith rithiol hon yn eich cyflwyno i’r sector trafnidiaeth hollbwysig gyda chymorth ein cyflogwr partner: Trafnidiaeth Cymru. Yma, byddwch yn archwilio meysydd craidd ar draws y sector trafnidiaeth gan gynnwys cynaliadwyedd, STEM, busnes a gyrfaoedd creadigol.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
Yn y rhaglen profiad gwaith rithiol hon, byddwch yn cael trosolwg lefel uchel o’r sector trafnidiaeth, sut mae’n gweithredu a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn Trafnidiaeth Cymru. Hefyd, cewch gyfle i brofi eich dealltwriaeth gyda chymorth cyfres o gwisiau a gweithgareddau rhyngweithiol, a gofyn cwestiynau i arbenigwyr y diwydiant ar hyd y ffordd drwy ein gweminarau byw.
Gweithrediadau Rheilffyrdd
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg helaeth o yrfaoedd ym maes gweithrediadau rheilffyrdd, gan gynnwys gyrru, goruchwylio a rolau staff gorsafoedd. Byddwch hyd yn oed yn cael cyfle i ymuno â sesiwn fyw o holi ac ateb a chymryd rhan mewn gweithgaredd senario yn y gweithle, gan ymgymryd â rôl goruchwyliwr trenau.
Gyrfaoedd STEM
Gwasanaethau Proffesiynol
Dyfodol Trafnidiaeth
Llwybrau a Chyfleoedd
Available dates
Programme dates
17th May 2024 - 30th March 2025