Mae’r rhaglen hon yn agored i unrhyw un 13+ oed sy’n byw yng Nghymru
Tystysgrif cwblhau
Gwerth dros 6 awr o gynnwys
Trosolwg:
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy? Bydd y rhaglen hon yn dangos sut i harneisio pŵer y gwynt er mwyn cynhyrchu trydan cynaliadwy a gwella ein hôl troed amgylcheddol. Byddwn yn rhoi cyflwyniad i chi ar yrfaoedd a ffyrdd o ymuno â’r diwydiant dynamig hwn er mwyn i chi gael eich troed yn y drws a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Beth sydd wedi’i Gynnwys:
Byddwch yn archwilio byd arloesol ynni gwynt ar y môr – o ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr i ffactorau amgylcheddol a phrosiectau peirianneg arloesol sy'n creu cryn argraff ar y sector ynni gwynt ar y môr. Hefyd, bydd cyfle i chi gael gwybod am yr amrywiaeth o yrfaoedd a ffyrdd o ymuno â’r sector cyffrous hwn! Byddwch hefyd yn cwblhau cyfres o gwisiau a gweithgareddau llawn hwyl er mwyn helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth.
RWE a’r Diwydiant Ynni Gwynt ar y Môr
Byddwch yn dysgu am swyddogaethau sylfaenol ffermydd ynni gwynt ar y môr yn ogystal â rhai agweddau allweddol ar y diwydiant, y byddwn yn manylu arnynt ymhellach drwy gydol y rhaglen. Beth arall? Byddwch yn cwrdd â'n partner, RWE, ac yn darganfod meysydd a llwybrau gyrfa o fewn y sefydliad. Hefyd, byddwn yn cael golwg ar ddiben craidd a strategaethau cynaliadwy RWE. Byddwch yn paratoi ar gyfer eich gweithgaredd a’ch cwis cyntaf hefyd!
Gweithrediadau ym maes Ynni Gwynt ar y Môr
Effaith Amgylcheddol
Arloesedd yng Nghwmni Ynni Gwynt ar y Môr RWE a'r Gadwyn Gyflenwi
Gyrfaoedd yn RWE
Cyflogadwyedd
Available dates
Programme dates
23rd September 2024 - 20th May 2025