
Kickstart your future
You don’t need to know where you’re going to get started. Discover skills training options. It all starts with skills.
Trosolwg
Y BBC yw un o sefydliadau cyfryngau enwocaf a mwyaf creadigol y byd. Ond beth yw ei genhadaeth? Dod â chynnwys newydd ac amrywiol i filiynau o bobl bob dydd, ar y teledu, drwy sain ac ar-lein, ledled y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Byddi di’n darganfod bod angen llu o wahanol fathau o swyddi i ddod â’r holl gynnwys yn fyw ac i sicrhau ei fod yn cyrraedd y gynulleidfa – tybed pa swydd fyddai’n ddelfrydol i ti?
Y Cynnwys
Bydd y rhaglen Profiad Gwaith Ar-lein yma’n rhoi cipolwg i ti ar sut beth yw bywyd yn y BBC, a dealltwriaeth wych o'r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Swyddi ym maes Busnes, Data, Digidol, Technoleg, Peirianneg a Gweithrediadau, Newyddiaduraeth neu Gynhyrchu – pa un bynnag sydd o ddiddordeb i ti, mae yna le i ti a bydd y rhaglen yma’n help iti ddod o hyd i’r llwybr sy’n gweddu orau i’r doniau, y sgiliau a’r uchelgais sydd gen ti!
Yn y modiwl yma byddi di’n edrych ar beth yw’r BBC, ei 100 mlynedd a mwy o hanes, a’i rôl fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Byddi di’n dysgu sut mae’r BBC wedi esblygu dros amser, ei genhadaeth a’i werthoedd, a sut mae’n dod yn sefydliad ‘Digidol yn Gyntaf’, yn barod ar gyfer ei 100 mlynedd nesaf. Cei gipolwg y tu ôl i’r llenni ar sut mae cynnwys yn cael ei greu, cei ddarganfod yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael, a chei glywed gan weithwyr proffesiynol y BBC am eu teithiau nhw yn eu gyrfaoedd. Erbyn y diwedd, byddi di’n deall beth mae’r BBC yn ei wneud, beth mae’n ei gynrychioli, ei le yn y diwydiannau creadigol yn gyffredinol, ac a allai dyfodol yn y BBC fod yn addas ar dy gyfer di.
Available dates
Programme dates
8th June 2026 - 23rd December 2026
Hear from our student community
Frequently asked questions
Ready to find out if this career is right for you?
Start now
